Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Cofrestru eich plentyn yn Ysgol Gynradd Llandysul

1. Cyflwyniad

Rheolir y dasg o dderbyn disgyblion i ysgolion gan yr 'Awdurdod Derbyn'. Yn achos yr ysgolion cymunedol yng Ngheredigion, yr Awdurdod Derbyn yw'r AALl.

Ni ellir derbyn unrhyw blentyn i'r ysgol oni cheir caniatād ysgrifenedig yr AALl.


2 Y Drefn Dderbyn – Disgyblion Ceredigion sy'n Dechrau Ysgol yn 3 neu 4 oed

Rhiant/Gwarcheidwad i gysylltu ā'r ysgol

Yr ysgol i ddarparu Rhiant/Gwarcheidwad ā Ffurflen Dderbyn yr Ysgol (gweler Atodiad 1) i'w dychwelyd i'r ysgol erbyn y dyddiad cytunedig (gweler Atodiad 2)

AALl i hysbysu'r Ysgol a'r Rhiant/ Gwarcheidwad o'r penderfyniad.

D.S. Nid yw'r disgybl i ddechrau tan fod yr AALl yn rhoi caniatād ysgrifenedig

Y Pennaeth i gwblhau Ffurflen Dderbyn yr Ysgol – gan nodi unrhyw anawsterau e.e. anghenion arbennig, meddygol ayyb a'u hanfon i'r AALl



3 Disgyblion sy'n symud o un Ysgol yng Ngheredigion i Ysgol arall yng Ngheredigion

Rhiant/Gwarcheidwad i gysylltu ā'r ysgol newydd

 

Pennaeth yr ysgol newydd i ddarparu'r Rhiant/Gwarcheidwad ā Ffurflen Dderbyn yr Ysgol (gweler Atodiad 1) i'w dychwelyd erbyn dyddiad cytunedig

Hefyd

Dylai'r rhiant hysbysu Pennaeth yr Ysgol bresennol o'r sefyllfa

Y Pennaeth i gysylltu ā'r ysgol bresennol i sefydlu a oes yna unrhyw anawsterau

Y Pennaeth i gwblhau Ffurflen Dderbyn yr Ysgol gan nodi unrhyw anawsterau a'i hanfon i'r AALl

Yr AALl i hysbysu'r Ysgolion dan sylw a'r Rhiant/Gwarcheidwad o'r penderfyniad

D.S. Ni ddylai'r disgybl drosglwyddo tan i'r AALl roi'i ganiatād ysgrifenedig

Yr AALl yn trefnu bod Ffeil Cofnodion y Disgybl yn trosglwyddo i'r ysgol newydd

Yr AALl i gael y Ffurflen Drosglwyddo Gyffredin Common Transfer Form



4. Disgyblion sy'n symud i Ysgol yng Ngheredigion o AALlau eraill

Yr AALl i ystyried ceisiadau a hysbysu'r Rhiant/Gwarcheidwad/Ysgol o'r penderfyniad.

D.S. Ni ddylai'r disgybl ddechrau ysgol tan i'r AALl roi caniatād ysgrifenedig

Yr AALl yn trosglwyddo Ffeil Gofnodion y Disgybl i'r ysgol newydd

Rhiant/Gwarcheidwad i gysylltu ā'r ysgol

Yr Ysgol i ddarparu'r Rhiant/Gwarcheidwad ā Ffurflen Dderbyn yr Ysgol i'w chwblhau a'i dychwelyd gan yr Ysgol erbyn y dyddiad cytunedig

Y Pennaeth i gwblhau Ffurflen Dderbyn yr Ysgol a'i hanfon at yr AALl gan amlygu lle nododd y rhiant/gwarcheidwad fod y plentyn

  • yn destun Datganiad o Anghenion Arbennig
  • yng ngofal y Gwasanaethau Cymdeithasol (Plentyn sy'n Derbyn Gofal)
  • yn meddu ar anawsterau meddygol
  • yn meddu ar anawsterau diogelu
  • NEU
  • yn meddu ar anawsterau eraill, e.e. mae'r plentyn wedi'i ddiarddel

Pan ddaw'r Ffurflen Dderbyn i law, bydd yr AALl yn cysylltu ā'r ysgol flaenorol i gael Ffeil Drosglwyddo Gyffredin y plentyn.

D.S. MAE'N BWYSIG FOD Y FFURFLEN DDERBYN YN CAEL EI HANFON AT YR AALl CYN GYNTED Ā PHOSIBL GAN Y BYDD UNRHYW OEDI YN EFFEITHIO'N UNIONGYRCHOL AR Y DYDDIAD DECHRAU.

Os yw'r plentyn yn "Blentyn sy'n derbyn Gofal" yna, mae'n rhaid rhoi'r ffurflen ychwanegol ar gyfer "Plentyn sy'n Derbyn Gofal" (gweler Atodiad 3) i'r Gwarcheidwad i'w chwblhau gan Weithiwr Cymdeithasol y disgybl

Swyddogion Cyswllt yr AALl

Nia Wynne Jones, Cynorthwy-ydd Gweinyddol ( 01970 633672

* niawj@ceredigion.gov.uk

Ian Davies, Prif Swyddog Addysg ( 01970 633670

* iand@ceredigion.gov.uk

Lawrlwyth PDF

PDF File AvailableLawrlwyth [59.04 Kb]

Bydd angen Adobe Acrobat Reader er mwyn agor ffeiliau.

Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Fri 10 Sep 2010 21:46:17