Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Trip Ysgol a Mabolgampau

21.5.08

Mabolgampau'r Ysgol / School Sports Day

Annwyl Rieni

Hoffwn eich atgoffa y cynhelir mabolgampau'r ysgol ar ddydd Mercher, Mehefin 4ydd.

Fe fydd rasus plant Adran y Babanod yn cychwyn am 10yb, gan orffen cyn amser cinio.

Cynhelir rasus disgyblion yr Adran Iau rhwng 1yh a 3yh.

Am resymau diogelwch gofynnir i'r holl ddisgyblion aros gyda'u hathrawon yn ystod y mabolgampau, ac iddynt beidio mynd at eu rhieni.

Diolchwn am eich cydweithrediad gyda'r mater hwn.

Gofynnir i bob plentyn wisgo het haul os bydd y tywydd yn boeth.

Fe fydd pob plentyn yn cael hufen iâ fel rhodd gan y Gymdeithas Rhieni. Yn ogystal fe fydd stondin te a choffi a chacennau, felly dewch a digon o arian !

Os bydd tywydd yn anffafriol yna fe wneir penderfyniad i ohirio'r mabolgampau ar y bore hwnnw a chynhelir y mabolgampau wrth gefn ar ddydd Iau, Mehefin 5ed.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ystod y dydd.

Trip Ysgol

Fe fydd yr ysgol gyfan yn ymweld â Folly Farm ar 13.6.08. Fe fydd eich plentyn angen crys a siwmper ysgol, bwyd,diod ac eli haul.

Arian Gwario.

Mae'n rhaid talu yn ychwanegol am gael defnyddio rhai o'r atyniadau (gan gynnwys y ffair), awgrymir felly y dylai'r plant ddod ag arian gwario gyda hwy:-

Babanod – Uchafswm o £5. Gofynnir i'r arian gael ei anfon i'r ysgol cyn diwrnod y trip, mewn pwrs neu waled, gyda enw'r plentyn wedi ei nodi'n glir.

Adran Iau – Uchafswm o £10

Cost y daith fydd £3.50 y plentyn.

Gofynnir i chi gwblhau'r bonyn isod a'i ddychwelyd gyda'r taliad erbyn 9.6.08.


Dymunaf i'm plentyn / plant fynd ar y daith i Folly Farm ac amgaeaf daliad o £_____

Enwau Plant ____________________________________

Llofnod Rhiant ____________________

Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Mon 06 Sep 2010 13:37:00