Ysgol
Amcanion
Ein hamcan yn Ysgol Llandysul ydi creu byd diogel a hapus ac annwyl i bob plentyn sy'n ddisgybl yma. Ein gobaith ydi paratoi profiadau perthnasol a chofiadwy i'r plant fel y byddant yn mwynhau'r presennol ac, ar ur un pryd, y byddant yn datblygu’n bersonau cytbwys annibynnol, yn ddinasyddion caredig, cyfrifol.

Defnydd o'r Iaith Gymraeg
Yn unol â Pholisi Iaith y Sir, y Gymraeg yw prif gyfrwng holl fywyd a gweithgarwch yr ysgol. Mae'r defnydd o’r iaith Gymraeg gan ddisgyblion, a'r holl aelodau staff o fewn y sefydliad hwn yn greiddiol i’r ethos a’r statws uchel roddir i'r Gymraeg yn Ysgol Gynradd Llandysul.
O'r cychwyn cyntaf byddwn yn gofyn am ymrwymiad llwyr gan rieni i gefnogi eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg. Gofynnir am yr un ymrwymiad gan eich plentyn yn yr ysgol.
|