Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Clybiau a gweithgareddau ar ol ysgol y tymor hwn

Dydd Gwener 15 Ionawr 2010 [14:32]

Clwb Clocsio

Fe fydd clwb clocsio / dawnsio gwerin yn cychwyn yn yr ygsol nos Lun nesaf, Ionawr 18fed a chynnig i bob plentyn yn nosbarthiadau 3,4,5 a 6 i fynychu sesiwn flasu ar y noson. Yn dibynnu ar nifer fydd yn mynychu mae'n bosib bydd rhaid dewis unigolion i barhau a'r gwersi ar sail addasrwydd. Fe fydd y sesiynau yn para awr gan gychwyn am 3.30yp. Cost pob sesiwn fydd £2.

Urdd /Clwb Chwaraeon

Fe fydd Yr Urdd a Chlwb Chwaraeon yr ysgol yn ail gychwyn ar nos Fercher 20fed rhwng 3.30pm a 4.30pm. Cynhelir y clwb yn y ganolfan hamdden ac ar y caeau astro, ac adran yr Urdd yn neuadd yr ysgol. Fe fydd angen dillad addas ar eich plentyn. Caniateir i'ch plentyn ddod a byrbryd bach i'w fwyta yn ystod cyfnod y clwb. Fe fydd Blynyddeodd 3 a 4 yn cychwyn yr yr Urdd a 5 a 6 yn y Clwb Chwaraeon

Clwb Drama yn cychwyn nos Iau nesaf

Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Mon 06 Sep 2010 12:23:57